Ffonau Symudol—Beth sy’n dda?
Nid yw pobl ifanc yn hoffi bod heb eu ffonau symudol ar unrhyw bryd! Er bod hi?n bosib clywed pob rhiant yn cwyno am y biliau, maen nhw hefyd yn gallu bod yn ffordd dda o gadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau, a sicrhau bod eich plentyn chi yn ddiogel. Mae teulu Milly Dower, y plentyn yn ei harddegau cafodd ei llofruddio wrth gerdded adref o?r ysgol, wedi lansio ymgyrch o?r enw ?teach ur mum 2 text next? trwy?r elusen Cronfa Milly mewn ymgais i helpu rhieni a?u plant gadw mewn cysylltiad drwy negeseuon testun. Trodd byd Sally a Bob Dowler ar eu pennau pan aeth Milly ar goll, ond roedden nhw?n gwybod y byddai?n rhaid iddyn nhw adael ei chwaer hyn, Gemma, i fynd allan, fel merched 16 mlwydd oed eraill ac roedden nhw am ddod o hyd i ffordd ddiogel fewnwthiol i gadw mewn cysylltiad â hi. Negesu testun oedd eu hateb. Roedd y modd yma?n meddwl gallent gadw ei gilydd yn adnabyddus o?r diweddaraf ond arbed embaras i Gemma o dderbyn galwadau ffôn parhaus wrth eu rhieni. Gwelir www.millysfund.org.uk am ragor o wybodaeth.
Mae ffonau symudol hefyd yn gallu fod yn dda ar gyfer cofnodi gwaith cartref wrth fwrdd du gyda?r camera a hefyd cael llawer o hwyl gyda thonau canu a fideos cerddoriaeth. Mae?n bosib dysgu fwy am a sut i ddefnyddio ffonau symudol yn ddiogel yn yr adran a'r teitl ?Beth sy?n ddrwg??.