Beth yw cam-drin plant yn rhywiol?
Mae person sy’n cam-drin plant yn rhywiol (adnabyddir yn gyffredin fel pedoffeil) yn rhy-wun sy’n cael eu denu’n rhywiol at blentyn neu blant ac yn gweithredu ar yr awydd hynny.
Pam mae pobl sy’n cam-drin plant yn rhywiol yn hoffi defnyddio’r rhyngrwyd i gysylltu â phlant?
Mae pobl sy’n cam-drin plant yn rhywiol yn gweld y rhyngrwyd yn lle hawddach i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cam-drin plant yn rhywiol gan gynnwys cyswllt gyda phlant oherwydd anhysbysrwydd y cyfrwng. Mi fydden nhw gan amlaf yn dweud cel-wydd ac esgus bod yn ifancach nag y maen nhw neu bobl yn wahanol iddyn nhw ei hunain, ac yn dod o hyd i deimlad o ddiogelwch trwy weithredu o ddiogelwch eu cartrefi ei hunain. Mae’n adnabyddus eu bod nhw’n creu cyfrifon e-bost a phersonau ffug i guddio’i hunaniaeth ar-lein.
O dan ba berygl mae plant wrth bersonau sy’n cam-drin plant yn rhywiol ar-lein?
Mae yna nifer o weithrediadau bydd yr oedolion yma’n gweithredu ar-lein. Yn cynnwys:
- Cyfnewid lluniau o gam-drin plant yn rhywiol mewn ystafelloedd sgwrsio neu trwy nege-sydd chwim gydag oedolion eraill neu bobl ifanc a ffurfio rhwydweithiau gyda phobl eraill sy’n cam-drin plant i rannu tipiau ar sut i feithrin perthnasau amhriodol yn fwy effeithiol a sut i arbed cael eu dal.
- Cyfnewid gwybodaeth bersonol o blant maen nhw wedi casglu gyda phobl eraill sy’n cam-drin plant.
- Cymryd rhan mewn cymunedau ar-lein megis blogiau, fforymau ac ystafelloedd sgwrsio gyda’r bwriad o feithrin perthynas amhriodol gyda phlant, casglu lluniau rhywiol eglur a chwrdd i gael rhyw.
Beth yw meithrin perthynas amhriodol ar-lein?
Meithrin perthynas amhriodol ar-lein yw:
"Cwrs o ymddygiad a chyflawnwyd gan bedoffeil a ddrwgdybir, bydd yn rhoi achos i bryderu i berson cyffredin bydd unrhyw gyfarfod gyda phlentyn yn cyfodi o’r ymddygiad am bwrpasau anghyfreithlon."*
Yn aml, bydd oedolion sydd am ddod a phlant mewn i weithrediadau rhywiol, neu siarad â nhw am foddhad rhywiol yn chwilio am bobl ifanc sydd angen cyfeillgarwch. Bydden yn aml yn defnyddio nifer o dechnegau i feithrin perthynas amhriodol yn cynnwys adeiladu bydd gyda’r plentyn trwy ddweud celwydd, creu gwahanol bersonau ac yna ceisio cysylltu mewn ffurfiau o gyfathrebu mwy agos gan gynnwys cyfaddawdu plentyn trwy’r defnydd o ddelweddau a chamerâu we. Bydd pobl sy’n cam-drin plant gan aml yn defnyddio blacmel ac euogrwydd fel ffurf o sicrhau cyfarfod gyda phlentyn.
Gallwch wneud adroddiad o fewn yr adran adrodd ar y wefan yma.
* Tarddwyd o www.netalert.net.au