Sgwrsio a negeseua sydyn—Beth ydi o?

Mae ystafell sgwrsio yn fforwm ar-lein lle mae pobl y gallu sgwrsio ar-lein (siarad â dar-lledu negeseuon i bobl ar yr un fforwm mewn amser real). Ambell waith mae’r mannau cy-farfod yn cael eu cymedroli naill ai wrth gyfyngu pwy sydd â hawl siarad (yn anghyffredin), neu wrth gael gwirfoddolwyr cymedroli i cylch-wylio’r mannau cyfarfod yn edrych am ymddygiad aflonyddgar neu annymunol.

Mae systemau sgwrsio mewn amrywiaeth o flasau yn amredeg o systemau negesau tes-tun yn unig i amgylcheddau 3D llawn. O bell y ffurf fwyaf cyffredin yn yr amseroedd diwed-dar yw negeseua sydyn (ICQ, AIM, MSN, Jabber, ayyb). Byddai ambell un yn dadlau bod y rhain ddim wir yn ystafelloedd sgwrsio gan eu bod yn cael eu cymeriadu wrth fod yn sgyrsiau un yn un gyda phobl mewn rhestri ‘’buddy’’ y defnyddiwr. Er bod y cyfrwng poblogaidd wedi cymysgu’r mater, mae disgrifiad byr yn cael ei gynnwys yma. Yn ddiwed-dar mae’r systemau yma wedi dechrau ymgorffori'r gallu i sgwrsio gyda nifer o bobl ar yr un pryd, ond mae’r sgyrsiau yma dal yn cael cyfyngu i restr ‘’buddy’’ y defnyddiwr, dim fel man cyfarfod steil parti coctel/bloc fel mae gwir ystafelloedd sgwrsio.

Mae ystafelloedd sgwrsio yn aml yn cael eu cymysgu (yn enwedig gan y cyfrwng poblogaidd) gyda grwpiau trafod, sy’n debyg ond ddim yn cymryd lle mewn amser real a gan amlaf yn cael eu rhedeg dros y rhyngrwyd.

Y ffurf hynaf o wir ystafelloedd sgwrsio yw’r rhai o’r amrywiaeth sail-testun. Y rhai mwyaf poblogaidd o’r math yma o ystafelloedd sgwrsio yw’r sgwrsio relái rhyngrwyd (neu IRC, Internet Relay Chat). Ond, mae yna hefyd siaradwyr, systemau byrddau bwletin, a hafa-nau. Mae’r poblogrwydd llawer o’r mathau yma o ystafelloedd sgwrsio wedi cilio ar draws y blynyddoedd, ond mae poblogrwydd yr IRC dal yn gryf.

Ar y lefel nesaf mae ystafelloedd sgwrsio gweledol 2D. Mae’r rhain wedi eu cymeriadu gan ddefnyddio cynrychiolaeth raffig o’r defnyddiwr (avatar) sy’n medru cael ei symud o am-gylch y cefndir graffig yr ‘’ystafell’’. (Dwy enghraifft o’r math yma o ystafelloedd sgwrsio yma yw ‘The Palace’ ac yn fwy diweddar ‘The Manor’.) Mae’r amgylchiadau yma yn gym-wys o ymgorffori elfennau fel gemau a deunydd addysgiadol gan amlaf yn cael eu dat-blygu gan berchnogion unigol y safleoedd, sydd â dealltwriaeth fwy dwfn o’r system. Mae rhai ystafelloedd sgwrsio gweledol yn ymgorffori cyfathrebu sain a fideo, fel bod def-nyddwyr yn medru gweld a chlywed ei gilydd, mae hyn yn arbennig o boblogaidd gyda’r rhai sy’n cadw mewn cysylltiad gydag aelodau o’r teulu sy’n bell i ffwrdd.

Yn olaf, mae ystafelloedd sgwrsio 3D. Mae’r rhain yn debyg i’r amrywiaeth 2D oni bai eu bod yn defnyddio graffeg 3D. Mae hyn yn gadael i ddefnyddiwr gael cyfathrebiad mwy re-alistig gyda’r amgylchedd. Yr amgylcheddau mwyaf poblogaidd yw’r rhai sy’n gadael i ddefnyddwyr i greu neu "adeiladu" ‘spaces’ eu hun. Er hyn, mae rhai yn gweld y math yma o amgylcheddau yn feichus i ddefnyddio ac yn rhwystro sgwrsio.*

* ffynhonnell www.wikipedia.org