Sgwrsio a negeseua sydyn—Beth sy’n dda?
Ystafelloedd sgwrsio
Mae ystafelloedd sgwrsio gan amlaf yn ardaloedd lle mae pobl yn cwrdd i sgwrsio fel y byddai’n digwydd yn y byd iawn mewn clwb ieuenctid neu far. Mae pobl ifanc yn eu hoffi oherwydd yn aml maent yn anghyfyngedig; ac meant yn gallu bod yn llefydd cyffroes i gwrdd â ffrindiau hen a newydd.
Negesydd Chwim
Mae negesydd chwim yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o sgwrsio i bobl ifanc. Yn aml yn cael ei alw yn IM, mae hyn yn cynnwys dau neu fwy o bobl ar-lein ar yr un pryd, ac yn wa-hanol i ystafelloedd sgwrsio, oherwydd bod y bobl ymglymedig dim ond yn gallu sgwrsio gyda’r bobl sydd ar eu rhestrau cyswllt. Mae pobl ifanc yn aml yn teimlo eu bod yn medru sgwrsio yn fwy agos yn yr amgylchedd yma, ac yn aml yn defnyddio iaith steil neges des-tun (ar ffôn symudol) eu hun i wneud hyn.
Gallwch ddysgu mwy am sut i ddefnyddio’r ystafelloedd sgwrsio a IM yn ddiogel yn yr adran efo’r teitl ‘Beth sy’n ddrwg?’.