Fforymau a blogiau—Beth alla i wneud?

Mae hi’n hanfodol eich bod yn gwybod os yw eich plentyn yn defnyddio rhaglenni sgwrsio ar-lein a’i bod yn deall y pwysigrwydd o gadw manylion personol yn bersonol. Os mae eich plentyn yn defnyddio IM (‘Instant messaging’) yna mae hi’n syniad da i ofyn iddynt i ddan-gos i chi sut mae e’n gweithio - yn y ffordd yma gallwch hefyd mesur pwy sydd ar eu rhestr gyswllt ac os oes yna rywun nad ydynt yn eu hadnabod yn y byd iawn. Mae hi hefyd yn syniad da i ofyn iddynt a ydynt yn gwybod sut i rwystro unrhyw un nad ydynt yn dymuno siarad â hwy bellach. Gallwch hefyd eu harwain at dudalen gwe pobl ifanc young people's website, lle gallant wylio ffilmiau a chwarae gemau ar sut i aros yn ddiogel ar-lein.

Ystyriwch greu rhai rheolau teulu a byddwch i gyd yn cytuno ar gyfer defnydd ar-lein, gan gynnwys dim rhoi manylion personol allan, na siarad gyda phobl ddiarth heb ei drafod. Atgoffwch eich plant na ddylent fyth cwrdd gydag unrhyw un maent wedi cwrdd ag ar-lein heb i chi neu oedolyn arall mynd gyda nhw.

Os ydych yn pryderu am y posibilrwydd o’ch plentyn fod mewn risg, efallai bydd hi’n han-fodol i logio neu i fonitro eu sgyrsiau, a gall hyn gael ei wneud trwy fath o feddalwedd ffil-teri - ond dylai hyn gael ei ystyried y ofalus, gall plentyn deimlo bod yn rhaid iddynt guddio mwy rhag eu rhieni os meant yn teimlo nad oes hymddiried ynddynt. GetNetWise Mae gan GetNetWise rhestr o feddalwedd ffilteri a monitro.

Os rydych yn meddwl bod eich plentyn mewn cysylltiad gydag oedolyn ar-lein yna, gwnewch adroddiad neu ffoniwch 999 os ydynt mewn risg ar unwaith.