Fforymau a blogiau—Beth sy’n ddrwg?

r bod sgwrsio ar-lein medru bod yn llawer o hwyl, gall pobl ifanc ambell waith ddarganfod eu hun mewn sefyllfaoedd lle maent yn gallu teimlo allan o’i dyfnder. Mae risgiau yn gallu codi pan fod pobl ifanc yn rhoi manylion personol allan i bobl ddieithr. Mae’r byd ar-lein yn aml yn medru bod yn wahanol iawn i’r byd iawn i bobl ifanc, ac maent yn gallu cael eu denu i ddweud a gwneud pethau na fyddent byth yn breuddwydio gwneud pe baent yn cwrdd â rhywun wyneb yn wyneb. Mae hyn yn cynnwys rhoi allan manylion personol fel rhif ffôn symudol a lluniau o’u hun. Os maent yn siarad gyda phlentyn arall mae yna risg fydden nhw’n camddefnyddio’r wybodaeth - er enghraifft, wrth ddanfon negeseuon testun ymosodol i’r plentyn, neu wrth bostio eu delweddau ar y we; ond mae yna fwy o risg amlwg os yw’r plentyn yn siarad gydag oedolyn. Yn anffodus, mae pedoffilyddion - oe-dolion sydd eisiau cwrdd â phobl ifanc am rhyw - yn gwneud defnydd o’r rhyngrwyd, yn aml gyda’r bwriad o siarad gydag a chwrdd â phlentyn. Gall pobl ifanc fod yn naïf i’r risg, ac meant yn aml y teimlo yn anorchfygol, neu eu bod ‘yn gwybod os yw rhywun yn dweud celwydd’. Bydd pobl ifanc yn aml yn cyfnewid ffrindiau drwy IM, ac felly yn medru sgwrsio gyda phobl ddieithr maent yn teimlo y gallent ymddiried ynddo oherwydd bod ffrind i ffrind yn eu nabod. Mae IM yn ffordd agos iawn i gadw mewn cysylltiad, mwy nag ystafell sgwrsio gyda llawer o gyfranogion, ac felly mae camddefnyddwyr plant yn aml yn def-nyddio hyn fel ffordd o gael manylion personol wrth berson ifanc.

Astudiaeth achos cyfansawdd:

(Mae pob enw yn ffug)

Ymwelodd Olivia ag ystafell sgwrsio lle'r oedd hi’n siarad â ffrindiau am eu hoff fand. Roedd hogyn roedd hi heb gwrdd o’r blaen wedi darllen ei phroffil a dweud helo. Dechreuodd y ddau sgwrsio, ac roedd Olivia yn dod ymlaen yn dda gydag ef - roedd e fel petai yn cytuno gyda phopeth roedd hi’n teimlo ac yn dweud - oedd yn cwl. Ar ôl ychydig o amser, fe ofynnodd am ei chyfeiriad Negesydd Chwim (IM) fel eu bod nhw yn gallu sgwrsio yn fwy preifat.

Derbyniodd Olivia ef ar ei rhestr gyswllt ac ar ôl ychydig wythnosau o sgwrsio drwy IM bob dydd roedd hi’n teimlo ei bod hi’n ei adnabod yn eithaf da. Danfonodd e lun o’i hun iddi a meddyliodd hi ei fod yn edrych yn neis iawn, felly pan ofynnodd e iddi ddanfon llun rhywiol o’i hun iddo - roedd hi’n teimlo yn bryderus, ond danfonodd un yn syth. Dywedodd ef wrthi ei bod hi’n edrych yn grêt ac awgrymodd i gwrdd â’i gilydd.

Teimlai Olivia yn eithaf anghyfforddus gydag hyn, gan ei bod hi dal yn teimlo ei fod yn ber-son diarth - er mor dda roedd y ddau yn dod ymlaen, gwrthododd ac aeth y ‘ffrind’ newydd yn ofidus gyda hi ac yna yn gas ac yn y diwedd dywedodd os na fyddai hi yn cytuno i gwrdd ag ef, byddai yn danfon ei llun rhywiol hi i bawb yn yr ardal sgwrsio

Roedd Olivia yn marweiddio, a ddim yn siwr beth i wneud; yn arbennig gan ei bod hi wedi dechrau gofidio am ei bwriadau; nid yn unig oedd e’n llwgrwobrwyo ond roedd e’n gwneud sylwadau awgrymog iawn roedd hi’n teimlo’n anghyfforddus gyda. Cynghorodd un o ffrin-diau Olivia i

Olivia nad oedd yn rhaid iddi hi i oddef 'hogiau od' fel yr un hyn, a dywedodd wrthi am gadw eu sgyrsiau gydag ef a’i adrodd i'r CEOP gan eu pastio i ffurflen rhoi gwybod am gamdriniaeth. Roedd hyn wedyn wedi cael ei weld gan swyddog o’r heddlu a ddechreuodd gwneud ymholiadau ac ymchwilio yn bellach. Roedd Olivia hefyd yn teimlo rhyddhad oherwydd nad oedd rhaid iddi ddelio gyda’r dyn ar ben eu hun, a daeth hi hefyd ar draws cyngor a chefnogaeth wych ar y wefan.