LLE RHIENI
Mae’r Llywodraeth wedi sefydlu’r adrannau rhieni a gofalwyr fel rhan o’r Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein - adnabyddir fel y CEOP.
Bwriad y wefan yw helpu chi i ddeall rhai o’r technologaethau newydd mae pobl ifanc wrth eu bodd yn defnyddio, eich diweddaru ar rhai o’r risgiau efallai fydden nhw’n cyfarfod ag ef a rhoi’r pwer i chi i fod yn ymglymedig a’i helpu i fod yn fwy diogel yn eu profiad ar-lein.
Mae gan y wefan yma swyddogaeth adrodd sy’n ymadael i ddefnyddwyr i roi gwybod am gamddefnydd a chamdriniaeth posib ar-lein. Gallwch fyned hwn trwy’r adran adrodd. Mae’r swyddogaeth yma’n rhan o Dasglu Rhithiwr Byd-eang sydd yn gynghrair rhyngwladol o asiantaethau gorfodaeth cyfraith yn gweithio gyda’i gilydd i wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel.
Crëwyd yr adran yma yn arbennig ar gyfer rhieni a gwarchodwyr efallai fydd â diddordeb neu yn pryderu am ddefnydd ei phlentyn o dechnoleg. Mae hi wedi ei rhannu i mewn i nifer o adrannau sydd yn trafod y defnydd o wasanaethau newydd ar-lein mae pobl ifanc â diddordeb ynddo. Mae gan bob testun e.e. ffonau symudol â 4 adran a enwyd "Beth ydi o?, Beth sy’n dda? Beth sy’n ddrwg? Beth alla i wneud?" mae’r rhain yn ffocysu ar y diffiniad o’r testun am y bobl di-dechnegol sydd yn ymweld â’r safle ("Beth ydi o?"), sut mae’r dechnoleg yn cael ei ddefnyddio’n bositif, a pam mae pobl ifanc yn dwlu arno ("Beth sy’n dda?"), rhai o’r risgiau ("Beth sy’n ddrwg?") a beth allwch chi wneud i'w minimeiddio ("Beth allai ei wneud?").
Beth yw meithrin perthynas amhriodol ar-lein a chamdriniaeth plant ar-lein?
Dysgwch y diffiniad o beth yw person sy'n cam drin plant yn rhywiol, adnabyddir yn gyffredin fel ‘Pedoffeil’, deallwch beth mae’r term ‘meithrin perthynas amhriodol ar-lein’ yn meddwl, a deallwch beth yw’r risgiau i’ch plentyn neu eich glaslanc/glaslances.
Darganfyddwch mwy
Adrodd
Mae hyn yn adran lle allwch chi adrodd unrhyw weithgaredd amhriodol neu sy’n anghy-freithlon o bosib gyda neu tuag at blentyn ar-lein.
Darganfyddwch mwy
Prif gynghorion am aros yn ddiogel ar-lein
Darganfyddwch ragor o gynghorion ar sut i gadw’ch plentyn neu laslanc/glaslances yn ddiogel ar-lein.
Darganfyddwch mwy
Cymorth pellach
Mae Cymorth pellach ar gael i oedolion a phobl ifanc o amrywiaeth o gyfundrefnau.
Darganfyddwch mwy